Rydym yn falch o'ch gwahodd yn ôl i'r ardal lles

yng Ngŵyl Tonnau eleni! Eleni mae gennym bobl yn cynnig myfyrdod boreol, sgiliau syrcas, Qi Gong, ioga, barddoniaeth a cherddoriaeth, ymdrochi yn y goedwig, gweithdy canu a Kirtan (cerddoriaeth ymroddedig). Rydym yn gobeithio darparu mannau i ymlacio ac adeiladu gwydnwch, maeth i'r meddwl a'r corff, a chwrdd â phobl ysbrydoledig sydd wedi ymrwymo i sefydlu cymunedau cryf. Mae therapyddion hefyd ar gael yn cynnig Reiki, therapi craniosacral a thylino. Gyda'r nos bydd gennym straeon amser gwely ac yn ddiweddarach meic agored i berfformwyr. Croesewir rhoddion ar gyfer digwyddiadau. Rydym wedi'n lleoli wrth fynedfa'r goedwig ar ben y maes tân, os oes gennych ddiddordeb mae croeso i chi alw heibio a dweud helo :) Bydd angen rhai archebion a bydd amserlen ar gael yn agosach at y digwyddiad.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi!